Adferiad Greddfol

Dechreuais yfed alcohol gyda fy ffrindiau pan oeddwn yn un deg pedwar, ond nid oedd hyn yn digwydd yn aml tan i mi droi’n un deg chwech a deall fy mod yn medru prynu alcohol yn y tafarndai a’r siopau diodydd lleol. Er fy mod yn yfed y rhan fwyaf o ddiwrnodau, ni ddaeth yn broblem nes i mi gychwyn yn y brifysgol yn un deg wyth oed. Roedd fy nghariad a minnau newydd wahanu ac roedd yfed yn ystod y dydd yn ‘dderbyniol’ yn y brifysgol. Dyna’n union a wnes i, a byddwn yn treulio dydd a nos yn yfed alcohol.

Nid oeddwn yn cymryd rhan mewn bywyd prifysgol o gwbl. Ni wnes i ymuno â chlybiau na chymdeithasau a byddwn yn osgoi mynd i ddarlithoedd er mwyn medru eistedd yn fy llofft gyda’r llenni ar gau yn yfed ar fy mhen fy hun. Roedd yfed a’r ffordd roeddwn yn ymddwyn tra roeddwn yn feddw wedi pwyso’n drwm ar fy mherthynas efo fy nheulu, ac mi gollais lawer o ffrindiau, roeddwn wedi mynd yn llawer trymach ac roeddwn yn sâl ac wedi blino o hyd. Roedd gen i swydd dda rhwng tymhorau, ond stopiais fynd i’r gwaith a phan oeddwn yn mynd yno, byddwn wedi meddwi. Ar ôl 18 mis, cefais fy mherswadio gan fy nheulu i fynd i weld y meddyg. Gwnaeth ambell i brawf arnaf a dywedodd fod gen i fath o glefyd yr iau, a’i bod yn rhaid i mi stopio defnyddio alcohol, ond mi gefais fy ngyrru’r ffordd arall gan y newyddion. Roedd cymaint o ofn arnaf nes fy mod yn parhau i yfed i anghofio am y peth. Erbyn hyn, roeddwn wedi cynefino â’r alcohol roeddwn yn ei ddefnyddio a byddwn yn deffro’n crynu. Fe geisiais leihau’r alcohol, ond dim ond diwrnod neu ddau yma ac acw roeddwn yn gallu ei wneud, ac roedd ei angen arnaf i. Mi es i ambell gyfarfod Alcoholigion Anhysbys, ond roeddwn yn dod ohonynt yn teimlo’n llai hyderus na phan roeddwn yn cyrraedd, ac nid oedd gen i owns o eisiau mynd i gyfarfodydd am weddill fy mywyd.

Mae ffrind teulu’n gweithio i CAIS ac awgrymodd y dylwn fynd ar un o’r cyrsiau Gwella Greddfol a oedd yn cael eu darparu yn Wrecsam ac a oedd yn dechrau ychydig ddiwrnodau wedyn. Mi es i’r cwrs â meddwl agored, ond heb unrhyw ddisgwyliadau go iawn. Ar ôl y profiadau roeddwn i wedi eu cael yn barod, nid oeddwn yn disgwyl rhyw lawer, ond gwelais fod y cwrs yn hawdd iawn i’w ddeall. Roeddwn yn teimlo fod gen i bŵer, a sylweddolais fy mod i’n rheoli fy nyheadau caeth.

Ers gadael y cwrs, rwyf wedi stopio yfed alcohol ac, yn bwysicach, rwy’n gwybod na fyddaf yn ei ddefnyddio eto, byth. Rwy’n teimlo’n llawer mwy hapus a iach, rwyf wedi colli pwysau ac mae’n debyg bod gen i fwy o egni o hyd. Mi es yn ôl at y meddyg am brawf ar yr iau, a dywedodd y canlyniadau ei fod yn arferol, ac rwy’n falch iawn o hynny, ac rwy’n teimlo’n obeithiol am y dyfodol. Mae pobl eraill wedi gweld newid ynof fi hefyd. Mae fy nheulu a’m ffrindiau’n dechrau ymddiried ynof eto, a phan rwy’n mynd allan efo nhw, rwy’n mwynhau eu cwmni yn hytrach na chwilio am esgus i fynd i nôl diod. Mae fy mywyd gwaith wedi gwella hefyd. Rwy’n weithiwr y gall rhywun ymddiried ynddo eto, ac rwyf wedi cymryd llawer mwy o gyfrifoldebau, gan ennyn parch fy nghydweithwyr yn y broses.

Nawr, rwy’n edrych ymlaen yn ofnadwy i gwblhau fy nghwrs gradd a bod yn rhan go iawn o fywyd prifysgol. Rwyf hefyd yn ymarfer tuag at hanner marathon ym mis Hydref, rhywbeth na feddyliais y byddwn yn gallu ei wneud erioed, ac mae’n enghraifft dda o sut mae fy ngolygon ar fywyd wedi newid yn gyffredinol ar ôl stopio yfed. Rwy’n obeithiol iawn am fy nyfodol, ac mae’n dda gallu edrych ymhellach ymlaen nag un diwrnod yn unig.